Walter Benjamin

Roedd Walter Benedix Schönflies Benjamin (Berlín, 15 Gorffennaf 1892 – Portbou, Catalunya 26 Medi 1940) yn ysgrifennwr, cyfieithydd ac athronydd o dras Iddewig ac yn gysylltiedig gyda’r grŵp athronyddol Ysgol Frankfurt..

Cyfrannodd Benjamin yn helaeth i ddatblygiad a syniadaeth damcaniaeth beirniadol a diwylliannol gyda gwaith fel ''The Task of the Translator,'' (1923) a ''The Work of Art in the Age of Mechanical Reproduction,'' (1936)

Dylanwadwyd Benjamin gan syniadaeth Theodor Adorno, Marcsiaeth Bertolt Brecht a chred Iddewig Gerschom Scholem.

Roedd gan Benjamin ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth a llenyddiaeth ei oes. Dadansoddodd waith Franz Kafka, Brecht a Friedrich Hölderlin gan geisio gwahanu'r gwaith o’u cyd-destun penodol.

Yn ei waith enwocaf ''The Work of Art in the Age of Mechanical Reproduction'' mae Benjamin yn ystyired sut mae ffydd o gynhyrchu, fel ffilm a ffotograffiaeth yn effeithio’r celfyddydau. Bu farw yn 48 oed wrth geisio dianc rhag y Natsïwyr yn Portbou, Catalunya wrth ffin Ffrainc a Sbaen..

Mewn cyflwr iechyd gwael, lladdodd Benjamin ei hun trwy gymryd gorddos o forffin wrth anobeithio am broblemau ei daith i geisio cyrraedd yr Unol Daleithiau. Yn 2001 ymddangosodd erthygl yn ''The Observer'' yn honni roedd wedi’i ladd gan asiantau Stalin. Ond mae arbenigwyr ar fywyd Benjamain yn diystyru hyn. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'Benjamin, Walter', amser ymholiad: 0.15e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Benjamin, Walter
    Cyhoeddwyd 2001
    Rhif Galw: A 999 / 047
    Llyfr
  2. 2
    gan Benjamin, Walter
    Cyhoeddwyd 1962
    Rhif Galw: FC-Ben 18 - 2
    Llyfr
  3. 3
    gan Benjamin, Walter
    Cyhoeddwyd 1950
    Rhif Galw: FC-Ben 18
    Llyfr
  4. 4
    gan Benjamin, Walter
    Cyhoeddwyd 1970
    Rhif Galw: G 638
    Llyfr
  5. 5
    Cyhoeddwyd 1992
    Awduron Eraill: “...Benjamin, Walter...”
    Rhif Galw: FC-Bre 31
    Llyfr
  6. 6
    gan Hessel, Franz
    Cyhoeddwyd 1984
    Awduron Eraill: “...Benjamin, Walter...”
    Rhif Galw: A 625
    Llyfr