David Irving

Mae David John Cawdell Irving (ganwyd 24 Mawrth 1938) yn honni bod yn "hanesydd" Ail Ryfel Byd ac mae'n awdur nifer o lyfrau. Ar adegau gwahanol, mae wedi ei wahardd o'r Almaen, Awstria, Canada, Awstralia, a Seland Newydd. Yn y 1970au roedd Irving yn cael ei dderbyn fel hanesydd awdurdodol ond yn dilyn yr achos hwn profwyd fod ei dystiolaeth yn wallus ac fe ddaethpwyd i ddeall fod ganddo agenda hiliol wrth ysgrifennu.

Yn 1998, dechreuodd achos o enllib yn erbyn Deborah Lipstadt a'r cyhoeddwr Penguin am iddi ddweud yn ei llyfr bod Irving yn gwadu bodolaeth yr Holocost. Bu'r achos yn aflwyddiannus. Yn ystod yr achos, fe ddisgrifiodd Irving yr hanesydd a thyst Richard J. Evans, sydd o dras Gymreig, yn "''little dumpy scowling Welshman''" a "''that horrid little Welshman''".

Ar 20 Chwefror, 2006, dedfrydwyd Irving i dair blynedd o garchar yn Awstria am wadu bodolaeth yr Holocost, ond cafodd ei ryddhau ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Irving, David', amser ymholiad: 0.05e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Irving, David
    Cyhoeddwyd 1990
    Rhif Galw: Ea 499 / 094
    Llyfr
  2. 2
    gan Irving, David
    Cyhoeddwyd 1978
    Rhif Galw: E 6699 / 294
    Llyfr
  3. 3
    gan Irving, David
    Cyhoeddwyd 1964
    Rhif Galw: E 6699 / 298
    Llyfr